Cerdd ar y cyd gyda blynyddoedd 3,4,5 a 6 o ysgolion Chwilog a Llanaelhaearn
Does ’na’m trên i Afonwen –
dewch ar y bws efo Miss Owen!
Dewch dan gysgod Tre’r Ceiri –
be welwch chi drwy’r ffenestri?
Ifan Garej yn trwsio car,
ogla pei o siop y bwtsiar;
yn ei glocsia’ ma’ PC Owen
yn dawnsio efo Catrin Alwen!
Cidwm, ci bach Rhys a Meinir,
adfeilion Celtaidd hyd y tir;
dacw’r sant a dacw’i ael
haearn yn sgleinio yn yr haul.
Mr Huw ar yr ukelele
a’r pentre’n llawn o hwyl a sbri;
pawb yn y Neuadd ar gyfer y steddfod
a’r gwartheg yn canu ar gaeau Rhoshafod.
Dawnsio mae’r dail ar hyd y Lôn Goed
a Gordon Huws ar y llwybr troed,
ac o dan y tonnau ger Chwarel Trefor
mae’r pysgod yn canu fel côr yn y môr.